DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) (Rhif 3) 2022

 

 

DYDDIAD

7 Tachwedd 2022

GAN

 

Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd

 

Bydd Aelodau Senedd Cymru am wybod fy mod wedi rhoi fy nghydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

 

Gofynnodd y Gweinidog Gwladol blaenorol dros Ffermio, Pysgodfeydd a Bwyd, am gytundeb i wneud Offeryn Statudol (SI) dan y teitl Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) (Rhif 3) 2022 ("y Rheoliadau") fydd yn gymwys i Brydain Fawr.

 

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud OS o dan y teitl uchod, gan arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 5(3), 30(1), 37(5), 41(3), 72(3) a 105(6) o'r Rheoliad Iechyd Planhigion. Mae Erthygl 2a(2) o'r Rheoliadau Iechyd Planhigion yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau o'r fath gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban.

 

Mae'r OS yn diwygio Deddfwriaeth yr UE a bydd yn diweddaru mesurau rheoli mewnforion mewn perthynas ag ystod o blâu a chlefydau mewn ymateb i asesiadau risg newydd neu ddiwygiedig. Diweddariad cyffredin yw hwn, yn adlewyrchu casgliadau technegol y cytunwyd arnynt drwy Grŵp Risg Iechyd Planhigion y DU, y mae Llywodraeth Cymru yn aelod craidd ohono.

 

Cafodd y Rheoliadau eu gosod gerbron Senedd y DU ar 3 Tachwedd.  Mae’r dyddiadau cychwyn ar gyfer y mesurau’n cael eu rhannu rhwng mesurau brys (gan fod Thekopsora minima yn y categori pla nad yw’n bla cwarantin) sydd i ddod i rym ar 25 Tachwedd 2022, a’r holl fesurau eraill nad ydynt yn y categori brys a fydd yn dod i rym ar 3 Mai 2023.

 

Unrhyw effaith y gallai’r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

 

Bydd aelodau am nodi nad yw'r Rheoliadau yn trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol.

 

Pwrpas y gwelliannau

 

Pwrpas y newidiadau hyn yw diogelu bioddiogelwch a chefnogi masnach rhwng Prydain Fawr a thrydydd gwledydd trwy wella mesurau amddiffynnol ar gyfer nwyddau planhigion mewn perygl.

 

Mae'r OS hwn yn diwygio Rheoliad (UE) 2019/2072 (Rheoliad Amodau Ffytoiechydol) i:

 

·         Adolygu’r rhestrau plâu a roddir o dan gwarantin Prydain Fawr a phlâu a reoleiddir na roddir mohonynt o dan gwarantin yn dilyn asesiadau  wedi’u diweddaru o’r risg o blâu neu newidiadau yn statws pla o fewn Prydain Fawr.

 

·         Estyn y rhwymedigaeth ynghylch planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy'n deillio o drydedd wlad ac y gellir ond eu cyflwyno i Brydain Fawr os bodlonir gofynion arbennig, i gynnwys Aelod-wladwriaethau'r UE, Liechtenstein a'r Swistir, gan drin pob gwlad yn gyfartal.

 

·         Diwygio gofynion i sicrhau bod yr ardal ddi-bla yn cael ei henwi ar y tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer Tyllwr Emrallt yr Onnen ac i egluro y dylid enwi'r ardal ddi-bla neu le/safle cynhyrchu (yn ôl y gofyn) ar y tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer Xylella fastidiosa.

 

·         Cyflwyno mesurau ledled Prydain Fawr i archwilio mewnforion hadau Pinus (coed pinwydd) a Pseudotsuga menziesii (ffynidwydd Douglas) sy'n blanhigion lletyol y pathogen Fusarium circinatum (cancr pinwydd pyg).

 

·         Newidiadau gweinyddol i gywiro enw'r genws Chrysanthemum L ar dystysgrifau ffytoiechydol

 

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â nhw, yn nodi manylion tarddiad, pwrpas ac effaith y diwygiadau. Fe’u gwelwch yma (dolen allanol, Saesneg yn unig).

 

Pam rhoi’r cydsyniad

 

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn mewn perthynas â Chymru, ac ar ran Cymru, am resymau effeithlonrwydd, hwylustod a diogelu bioddiogelwch trwy gyflwyno mesurau amddiffynnol ar gyfer nwyddau planhigion mewn perygl ledled y DU. Mae'r gwelliannau wedi cael eu hystyried yn llawn ac nid yw’n newid polisi.